Disgrifiad

Aelod o cymunedoli, ac yn fenter gymunedol sydd yn gweithio er budd y gymuned. Mae Cymunedoli yn rhwydwaith o fentrau cymunedol yng Ngwynedd yn cydweithio er budd ein cymunedau
Mae’r Heliwr yn dafarn gymunedol efo llety yn nhref Nefyn, tref sydd wedi ei hamgylchynu gan brydferthwch Penrhyn Llŷn a thafliad carreg o Eryri yng Ngogledd Cymru.
Rydym wedi ein lleoli ar Stryd Fawr Nefyn, y lleoliad perffaith i ymwelwyr sy’n dymuno cael blas ar bopeth sydd gan yr ardal i’w gynnig.
Mae Nefyn a’r cyffiniau yn gartref i nifer o draethau, mynyddoedd a thir-nodweddion hanesyddol godidog, yn ogystal â phentrefi prydferth.
Mwynhewch y llu o dafarndai, caffis, bwytai ac atyniadau ymwelwyr gwych yr ardal, a dilynwch Llwybr Arfordir Cymru i’r pentrefi, traethau a childraethau cyfagos.
Dringwch fryniau a mynyddoedd lleol fel Yr Eifl, Gwylwyr, Carreg Lefain a Garn Boduan i werthfawrogi’r golygfeydd godidog a welir o’u copaon. Darganfyddwch gilfachau sy’n gyforiog o lên gwerin, hanes a threftadaeth.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.