Disgrifiad
Siop fechan yng nghanol y Bala sy’n cynnig cwrw crefft Cymreig blasus ar dap ac ar silff, gwirodydd Cymreig hardd a llawer o gynnyrch Cymreig gwahanol (gan gynnwys caws, siocled a hyd yn oed coffi!).
Mae cerddoriaeth fyw yn ddigwyddiad rheolaidd gyda meic agored y trydydd dydd Gwener o bob mis ac o leiaf un act gerddorol arall bob mis.
Mae croeso i blant hyd at 6y.h, ac mae croeso i gŵn cyn belled eu bod yn aros ar y llawr.
Mae pawb yn y siop yn unai dysgu neu siarad Cymraeg.
Cwrw Oes yw Cwrw Da!!








