Disgrifiad
Mae Cwt Tatws wedi ei leoli dafliad carreg o’r môr yma yn Nhudweiliog ym Mhen Llŷn. Mae llwybr yr arfordir ychydig latheni o’r drws ac mi gymerith hi ddau funud ichi gerdded lawr at y traeth hir melyn.
Ein nôd ydi cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid, a rhoi croeso cynnes Cymreig ichi gyd.
Yn ogystal a’r siop sydd a chasgliad helaeth o bethau cwbl hyfryd i chi a’ch cartref, mae Caffi Tatws yn le da am baned a sgwrs.
Ryda ni’n hynod o falch bod ‘na bron i hanner cant o wneuthurwyr o Gymru yn dangos eu gwaith yn Cwt Tatws. Mae’r siop ger y traeth yn Nhudweiliog, ym Mhen Llŷn, ac mae’r drysau’n agor am 10am tan 5:00 y rhan fwyaf o ddyddiau. Mae ein siop ar-lein ar agor 24/7 ac mae ‘na bethau newydd yn cael eu rhoi arni bob dydd. – https://www.cwt-tatws.co.uk/cy/y-siop/




Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.