Disgrifiad

Aelod o cymunedoli, ac yn fenter gymunedol sydd yn gweithio er budd y gymuned. Mae Cymunedoli yn rhwydwaith o fentrau cymunedol yng Ngwynedd yn cydweithio er budd ein cymunedau
Croeso i’r Orsaf. Lle i fwyta, aros, datblygu sgiliau creadigol a chyfrannu at y gymuned.
Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Mae Yr Orsaf wedi’i lleoli ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle.
Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Ein nod yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo’r gymuned, er lles y gymuned.
Yn y gorffennol bu’r adeilad yma’n dafarn prysur cyn troi’n siop haearnwerthwyr gyda’r enw Siop Griffiths. Ond, erbyn hyn mae’r Orsaf yn llawer mwy nag adeilad. Mae’n hwb cymunedol pwysig yn y Dyffryn sy’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant, pobl ifanc ac oedolion ac yn cynnig swyddi i drigolion yr ardal.
Ymysg y gwasanaethau mae’r Orsaf yn eu cynnig mae Cynllun Trafnidiaeth, Cynlluniau Bwyd a Lles, Prosiectau Amgylcheddol a Natur a’r Hwb Cymunedol. Ym mhob prosiect mae’r Orsaf yn ymrwymo i gefnogi unigolion, datblygu cymunedol, hyrwyddo lles drwy’r celfyddydau ac ymgysylltu efo natur.
Mae’r fenter yn mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn digwydd yma a chynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.
Llety yng nghanol ardal hyfryd Dyffryn Nantlle
Agorodd y llety newydd ym mis Gorffennaf 2021. Ceir 3 ystafell sydd wedi eu hadnewyddu a’u dylunio’n chwaethus a chyfforddus ar gyfer ymweliad unigryw â’r ardal. Bwcio
Ystafell Dulyn (twin)
Ystafell sy’n cynnwys dau wely sengl gyda matresi moethus yn ogystal â dillad gwely o safon. Mae ystafell ymolchi breifat a chwaethus yn rhan o’r ystafell sy’n cynnwys toiled, sinc a chawod.
Darperir tywel fach a mawr i bob gwestai sy’n gynwysedig ym mhris yr ystafell. Mae lle o dan y gwlau i gadw bagiau a mae rac dillad chwaethus ar gyfer storio dillad ac esgidiau.
Mae cyswllt di-wifr am ddim yn yr ystafell yn ogystal â chyfleusterau te a choffi er mwyn sicrhau arhosiad cartrefol i’n gwesteion.
Gyda golygfeydd o ochr Orllewinol Crib Nantlle sy’n cynnwys mynyddoedd ‘Mynydd Graig Goch’, ‘Garnedd Goch’ a ‘Chraig Cwm Silyn’ yn amlwg o’r ffenestr, bydd yn siwr o’ch denu i’r mynyddoedd am dro.
Mae modd ehangu’r ystafell hon i greu adran breifat i 4 person gan ei baru gyda’r ystafell ddwbl drws nesaf (Llifon).
Ystafell Llifon (dwbl)
Mae’r ystafell hon yn berffaith i ddau gyda gwely dwbl a matres foethus yn ogystal â dillad gwely o safon.
Mae ystafell ymolchi breifat a chwaethus yn rhan o’r ystafell sy’n cynnwys toiled, sinc a chawod.
Darperir tywel fach a mawr i bob gwestai sy’n gynwysedig ym mhris yr ystafell. Mae lle o dan y gwlau i gadw bagiau a mae rac dillad chwaethus ar gyfer storio dillad ac esgidiau.
Mae cyswllt di-wifr am ddim yn yr ystafell yn ogystal â chyfleusterau te a choffi er mwyn sicrhau arhosiad cartrefol i’n gwesteion.
Ceir golygfa hyfryd o’r ystafell hon sy’n edrych draw ar ochr Orllewinol Crib Nantlle. Gellir gweld mynyddoedd ‘Mynydd Graig Goch’ a ‘Garnedd Goch’ yn amlwg o’r ffenestr, sy’n gwneud lleoliad yr ystafell hwn yn un unigryw a braf.
Mae modd ehangu’r ystafell hon i greu adran breifat i 4 person gan ei baru gyda’r ystafell 2 sengl drws nesaf (Dulyn).
Ystafell Silyn (dwbl a bync / teuluol)
Ystafell fawr sy’n cysgu 4 felly’n berffaith i deulu neu chriw o ffrindiau. Yn yr ystafell hon ceir un gwely dwbl moethus ac un bync yn ogystal â chadair a bwrdd.
Ceir dillad gwely o safon ar pob gwely a darperir tywel fach a thywel mawr i bob gwestai sy’n gynwysedig ym mhris yr ystafell. Mae lle o dan y gwlau i gadw bagiau a mae rac dillad chwaethus ar gyfer storio dillad ac esgidiau.
Mae ystafell ymolchi breifat a chwaethus yn rhan o’r ystafell hon sy’n cynnwys toiled, sinc, cawod a baddon.
Mae cyswllt di-wifr am ddim yn yr ystafell yn ogystal â chyfleusterau te a choffi er mwyn sicrhau arhosiad cartrefol i’n gwesteion.
Ceir dwy ffenestr yn yr ystafell hon- un yn edrych tuag at draeth Dinas Dinlle yn y Gorllewin a’r llall yn edrych ar ochr Orllewinol Crib Nantlle gyda’r mynyddoedd yn eu holl ogoniant.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.