Disgrifiad
Maes gwersylla teuluol yw Bolmynydd wedi ei leoli yng nghysgod Mynydd Tir Cwmwd Llanbedrog, mewn ardal o harddwch eithriadol naturiol.
Gyda gradd 5 seren gan Croeso Cymru mae dod ar wyliau i Bolmynydd yn ddewis delfrydol ar gyfer gwyliau gwersylla hamddenol perffaith gyda chyfleusterau gwych ac awyrgylch gyfeillgar.
O’r Parc ceir golygfeydd anhygoel o’r arfordir a mynyddoedd Eryri. Mae o fewn cyrraedd i draethau, siop gyda stoc dda, tafarn deuluol a bistro cartrefol.
Mae’r cyfleusterau gradd 5 seren yn cynnwys:
- safleoedd llydan gyda thrydan ar bob un wedi eu gwahanu gyda chloddiau. yn addas i bebyll, cerbydau gwersylla a chartrefi modur
- ystafelloedd ymolchi gyda gwres dan y lloriau, cawodydd gyda dŵr poeth am ddim, a socedau trydan ar gyfer peiriannau sychu a sythu gwallt eich hunain
- ystafell golchi a sychu dillad
- ardal golchi llestri
- wi-fi am ddim ar draws y parc
- croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda
- ardal cerdded cŵn ar y safle



