Disgrifiad
Mae PEN Solar yn gwmni lleol, wedi ei leoli yng ngogledd Cymru ac yn cynnig gwasanaeth gosod Solar PV hyd a lled yr ardal. Mae’n bwysig gennym ni ein bod yn cefnogi’r economi leol drwy ddefnyddio nwyddau, gwasanaethau a busnesau lleol. Mae gennym un llinell ffôn gyswllt ac os nad ydych yn cael gafael arnom ar hwnnw’n syth, gadewch neges a mi ddown yn ôl atoch yn syth. Ni fydd angen i chi fod mewn ciw hir o alwadau!
Gweithwyr cydwybodol, o safon, sydd yn gwneud busnes yn llwyddiannus. Dyna pam bod systemau pv PEN Solar yn cael eu gosod gan bobl broffesiynol, cymwys sydd yn hen lawiau ar y gwaith. Mant yn bobl sydd â balchder yn eu gwaith ac ym mhopeth y maen nhw’n ei wneud. Mi fydd y bobl bwysig hyn yn sicrhau ein bod ni fel cwmni yn gosod eich system solar pv ar y diwrnod a drefnwyd ac i’r safon uchaf.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.