Disgrifiad
Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn cyrsiau cymraeg i oedolion (fel ail iaith) drwy gyfrwng cyrsiau preswyl dwys sydd ar gael gydol y flwyddyn.
Gall ymwelwyr ar ardal ddod draw i ganolfan dreftadaeth y nant i fwynhau yr arddangosfeydd am yr iaith gymraeg ar diwylliant cymreig, hanes y pentref a bywyd gwyllt unigryw y dyffryn diarffordd hwn ai draeth.
Cyrsiau Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn
Mae Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn yn ddarparwr sy’n cynnig cyrsiau preswyl ar safle unigryw hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn ar benrhyn Llŷn. Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig cyrsiau ar ddwy ffrwd ddysgu: y brif ffrwd sydd â chyrsiau ar lefelau Mynediad 1, Mynediad 2, Sylfaen 1. Sylfaen 2, Canolradd, Uwch 1, Uwch 2 a Gloywi; a’r ffrwd Cymraeg Gwaith sydd â chyrsiau ar lefelau Sylfaen, Canolradd, Uwch, Gloywi (Siarad) a Gloywi (Ysgrifennu).
Mae cyrsiau ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith wedi eu cyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r cyrsiau ‘Defnyddio’ ar gael i unigolion sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yng Nghymru. Mae modd hefyd archebu cwrs sectorol ar gyfer grŵp o weithwyr penodol. Nod y cyrsiau yma yw cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Cyrsiau
Mae’r cyrsiau yn rhoi cyfle i bobl ymarfer pob sgil ieithyddol – siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu – ond rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu hyder i siarad yr iaith, drwy eich annog i fanteisio ar bob cyfle i ymarfer eich Cymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Nant. Mae ein tiwtoriaid profiadol yn gallu addasu rhywfaint ar gynnwys bob cwrs yn unol ag anghenion y grŵp. Rydym yn rheoli maint y dosbarthiadau er mwyn medru cefnogi pob dysgwr yn ystod y cwrs. Mae rhestr o’r cyrsiau i’w gweld isod. Os hoffech drafod unrhyw agwedd o ddysgu Cymraeg yn y Nant mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs.
addysg@nantgwrtheyrn.org
Gallwch ddarllen ychydig am ddarpariaeth dysgu y Nant yn Adroddiad Estyn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, 2024.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.