Disgrifiad
Sefydlwyd O Ddrws I Ddrws yn 2002 yn dilyn ymchwil gan Age UK, (Help the Aged ar y pryd) canfyddiadau’r ymchwil yma oedd bod angen gwasanaeth cludiant cymunedol yn Llŷn er mwyn cynnal annibyniaeth trigolion yr ardal. Pobol gymharol iach ond heb ffordd o deithio at wasanaethau neu gyfleusterau, fyddai or herwydd gorfod symud i fyw. Ymgorfforwyd fel cwmni ac elusen yn Ionawr 2003.
Mae O Ddrws I Ddrws yn elusen cofrestredig gyda swyddfa’n Nefyn, Llŷn ble mae’n darparu gwasanaeth cludiant cymunedol angenrheidiol i drigolion Llŷn fyddai fel arall wedi eu hynysu gartref, yn methu cyrraedd at wasanaethau a chyfleusterau.
Mae’r rhai sydd heb fynediad i gar, neu sydd â iechyd, oed neu anabledd yn eu rhwystro rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus arferol, yn gallu defnyddio gwasanaeth O Ddrws I Ddrws i fynychu apwyntiadau meddygol, cyrraedd y siop neu’r swyddfa Bost, cymryd rhan mewn digwyddiadau hamdden a lles ac i gadw mewn cysylltiad a ffrindiau a theulu. Rydym yn ymestyn annibyniaeth.
Mae’r elusen bellach yn darparu ystod o wasanaethau yn ymwneud a symudedd a chludiant ac yn ymdrechu i leihau ein ôl troed carbon a chyrraedd sero net cyn bo hir.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.