Disgrifiad
Mae Theatr Derek Williams yn cael ei rhedeg yn rhannol wirfoddol i ddod â ffilmiau, dramau, cerddoriaeth fyw, a gweithdai o bob math i ardal Y Bala a thu hwnt.
Derbyniwyd cefnogaeth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn 2019 i ddatblygu’r theatr a gwella’r adnoddau a’r drefn ymhellach. Un cam allweddol yn y broses yma oedd medru penodi Branwen Haf yn gydlynydd rhan amser er mwyn troi’r theatr yn gyrchfan i bobl o bob oed ac anian.
Mae modd llogi gwahanol rannau o Theatr Derek Williams ar gyfer eich digwyddiad.
Gallwn gynnig:
- Theatr lawn a llwyfan – cynulleidfa o 320 (120 o seddi ar oleddf a dau gant o seti ar y llawr)
- Theatr ‘blwch du’ – cynulleidfa o 120 ar seddi ar oleddf
- Defnydd o ffreutur yr ysgol
- Neuadd ddawns
Cysylltwch â ni os hoffech wirfoddoli neu gynnig unrhyw syniadau: theatrderekwilliams@gmail.com









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.