Disgrifiad
Datblygiad Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yw’r prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol gan yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Roedd agor Galeri yn 2005, adeilad £7.5m, yn dynodi datblygiad arwyddocaol i’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol yng Ngogledd Cymru.
Mae adeilad Galeri yn cynnwys:
– Theatr a sinema 394 o seddi
– 24 o unedau swyddfa
– Safle Celf
– 2 stiwdio ymarfer fawr
– 3 ystafell ymarfer llai o faint
– Ystafelloedd cyfarfod
– Café Bar
Ym mis Medi 2018 agorwyd estyniad newydd ar safle Galeri. Mae’r estyniad yn cynnwys 2 sinema pwrpasol (119 a 65 sedd) yn ogystal a Safle Creu, Swyddfa Docynnau newydd, gofod arddangos celf/crefft ac ystafell gyfarfod i 12 person. Mae’r rhaglen sinema bellach yn cynnig darpariaeth fwy eang a chyson o ffilmiau amrywiol – gan gynnwys ffilmiau newydd sbon.
Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy’n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu.
Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod:
“unrhyw beth yn bosibl…drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy”
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth bydd y cwmni yn:
“gweithredu prosiectau cynaliadwy mewn ffordd greadigol i wireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned leol a’r cyffiniau”
Sefydlwyd y cwmni yn 1992, gyda’r bwriad o wella tref Caernarfon gan ymgymryd â’r dasg o drawsnewid ac ailwampio rhai o adeiladau gwag, bler mwyaf y dref. Hyd yma, mae’r Ymddiriedolaeth wedi adnewyddu dros ugain o adeiladau gwag wedi eu hesgeuluso yn y dref, sydd yn awr gyda thenantiaid.
Ceir rhestr ein eiddo/tenantiaid yma
Mae cyfraniad y cwmni yn economaidd i siroedd Gwynedd a Môn yn sylweddol:
– Mae’r cwmni yn cyfrannu bron i £2.5m y flwyddyn i economi Gwynedd a Môn
– Mae bob £1 a gaiff ei wario yn Galeri werth dros £2 i’r economi leol
– Mae pob £1 o grant cyllid yn creu £9.65 yn yr economi leol
– Mae’r cwmni yn cyflogi dros 50 o staff (llawn amser / rhan amser / achlysurol]
– Mae’r cwmni yn cefnogi dros 50 o swyddi pellach yn yr economi leol









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.