Disgrifiad
Sefydlwyd Cwmni Nod Glas yn 2012 gyda’r bwriad o wella’r economi cymdeithasol, ac amgylchedd ardal Mawddwy drwy ddenu cyllid i gyflawni prosiectau a fyddai’n gwireddu’r amcanion hynny. Llwyddodd y mudiad i gael nifer o grantiau i brynu ac adnewyddu hen siop yng nghanol Dinas Mawddwy – Yr Hen Siop – gyda busnesau lleol yn gwneud y gwaith a’r Caffi sy’n cynnig cyfleoedd i bobl o bob oed gael profiad a gweithio yn y byd arlwyo, tra bod y fflatiau yn cyfrannu at gynnal bwrlwm yn y gymuned a llety i unigolion lleol am brisiau teg.
Mae digonedd o atyniadau yn yr ardal, yn enwedig i’r rhai sy’n mwynhau’r bywyd awyr agored, gyda heicio, beicio, golff, golygfeydd, marchogaeth ceffylau, a saethu – i gyd ar gael yn yr ardal gyfagos. Gallwch fod ar y traethau gogoneddus ar arfordir gorllewinol Cymru mewn tua 20-30 munud yn y car. Neu i’r rhai sy’n hoffi her efallai y byddai’n well gennych ddringo Cader Idris sydd yn 893m neu Aran Fawddwy 905m yn rhai o gopaon mwyaf poblogaidd Cymru ar gyfer cerdded bryniau.
Ond nid oes angen i chi deithio’n bell am dro da, gan fod Dyffryn Dyfi a’r ardal lleol yn Ddinas Mawddwy â llwybrau a hawliau tramwy lu.
Bydd beicwyr mynydd yn gwerthfawrogi naill ai Llwybrau Coedwig Coed y Brenin neu Lwybrau Machynlleth. Dim ond taith fer i ffwrdd yw’r ddau ac mae yna lwybrau sy’n addas i deuluoedd a’r beicwyr mynydd mwy difrifol




Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.