Disgrifiad
Yn ardal Bro Ffestiniog mae yna gymuned o fentrau a busnesau cymdeithasol byrlymus, yn cynnwys Antur Stiniog, Trawsnewid, Seren, Pengwern Cymunedol, CellB, Gwallgofiaid, GISDA, Dref Werdd, Ysgol Y Moelwyn, Opra Cymru, Deudraeth cyf, Caban Bach Barnados a Cyfeillion Croesor i enwi dim ond rhai.
Mae nifer o’r mentrau yma yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â rhwystrau a phroblemau lleol ac ar yr un gwynt yn cyfrannu yn greadigol a chynaliadwy i ddyfodol yr ardal. Maent wedi dod ynghyd i gyd-weithio er lles yr ardal gyfan, o dan parasol Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog, gyda’r nod o gynnig cyfleon cynaliadwy yn yr ardal. Cyfleon yn y sector creadigol, addysgol, gofal, amgylcheddol, adeiladwaith a thwirstiaeth cynaliadwy. Cefnogaeth gwirioneddol, mwynhad, hyfforddiant, a chyfleon gyrfa yn nes at adra.
Amcanion Cwmni Cymunedol Bro Ffestiniog ydi:
- Hybu cydweithio rhwng y mentrau cymunedol yn yr ardal.
- Gwella cydweithio rhwng mentrau cymunedol, elusennau, cyrff gwirfoddol ac asiantaethau cyhoeddus a phreifat sy’n gweithredu yn yr ardal.
- Cefnogi a hybu twf a datblygiad y sy’n bodoli eisoes.
- Cynyddu cyfranogiad y gymuned a hybu gweithgarwch a mentergarwch cymunedol.
- Sbarduno, meithrin a hybu mentrau newydd yn yr ardal.
- Cyfrannu at ddatblygiad unigolion yn ogystal â datblygiad economaidd, amgylcheddol,cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol yr ardal.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.