Disgrifiad
Bragdy annibynnol ydan ni yn cynhyrchu detholiad o gwrw llawn blas a chymeriad. Boed wrth fragu cwrw chwerw, lliw haidd neu gwrw ysgafn, golau, rydym yn rhoi amser a chwarae teg i’r grefft. Hyn i gyd er mwyn i’r cwsmer gael amser da!
Llŷn yw’r lle sy’n cyflwyno’r diriogaeth, y chwedlau, y cymeriadau a’r enwau i’n cwrw. Dyma gwrw cariad go iawn! Ochr yn ochr â chynnyrch ardderchog môr a thir y penrhyn hwn, mae’r cwrw’n rhan o’r profiad bellach.
Mae’r bragdy yn Nefyn, tref hanesyddol yn Llŷn sy’n enwog am ei chysylltiadau â’r môr. Yn ogystal â Llywbr yr Arfordir, mae’r fro yn frith o lwybrau sy’n crwydro mynyddoedd yr Eifl, bro’r chwareli ithfaen a phorthydd y glannau – a dyma ardal llwybr y pererinion am Enlli, wrth gwrs.
Treftadaeth Llŷn ydi’r ysgogiad y tu ôl i’r fenter, y cynnyrch a’r enwau a’r straeon sy’n cael eu plethu drwy’i gilydd yn y bragdy. Iechyd da i’r lle hynod hwn, ei Gymreictod, ei gymdeithas a’i olygfeydd ysblennydd dros dir a môr.
Er bod y deuddeg ohonom yn dod o gefndiroedd amrywiol, mae cydweithio a chydrannu profiad wedi bod yn fanteisiol i lwyddiant y prosiect. Rydym yn cynnwys ffermwyr, seiri, cynhyrchydd caws, argraffydd a chyhoeddwr, cyfrifydd, gweithiwr cymdeithasol a masnachwyr. Mewn undod mae nerth, does dim dwywaith.
Hen feudy wedi’i addasu yng nghanol gwlad Llŷn oedd cartref cyntaf y bragdy. Chwe chasgen yr wythnos oedd uchafswm y cynnyrch, ac o fewn chwe mis bu’n rhaid cymryd cam ymlaen gan fod cymaint o alw. Symudwyd i hen ffatri yn Ionawr 2012 gan ddefnyddio offer mwy ac yna ym Mai 2015, agorwyd ein bragdy newydd sbon yn Nefyn gyda’i offer pwrpasol.
Bragu â llaw, ychydig ar y tro, yw’r dull yn Cwrw Llŷn – mae hynny’n sicrhau rheolaeth dros yr ansawdd a chysondeb. Fel arfer, byddwn yn bragu tua 180 ffercin yr wythnos. Mae cadwraeth ac ôl-troed carbon yn cyfri yma a byddwn yn ailddefnyddio ac ailgylchu hyd eithaf ein gallu. Aiff soeg yr haidd i borthi moch lleol a gwneir compost o weddillion yr hopys.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.