Disgrifiad
Lleolir Whitehall yng nghanol tref marchnad Pwllheli. Dyma dafarn gastro – gyda pwyslais ar gynnyrch lleol. Mae Whitehall yn le ardderchog ar gyfer cynnal partion penblwydd ayyb ac yn leoliad poblogaidd dros gyfnod y Nadolig.
Rydym yn ofalus o anghenion deiet pobol. Mae gennym opsiynau di-glwten a fegan ar gael. Bwydleni
Bydd pob pryd yn cael eu gweini mewn lleoliad modern, clyd ac hamddenol, ble gall pobl alw heibio am goffi ffres, “brunch” neu i fwynhau pryd tri cwrs gyda gwinoedd gwych i’w olchi i lawr!
Rydym yn cynnig bwyd cartref ffres a gynhyrchir yn lleol ac ystod wych o gwrw, cwrw go iawn, gwirodydd a gwinoedd. Mae Whitehall yn croesawy pawb – o unrhyw oedran. Byddai digon o olygfeydd anhygoel i’w gweld yn nhref Pwllheli hefyd.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.