Disgrifiad
Ym mis Chwefror 2009 caeodd y Pengwern ei drysau, ofn rhai am y tro olaf. Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ychydig cyn iddo gau penderfynwyd sefydlu menter gymdeithasol gymunedol er mwyn ailagor y gwesty: Pengwern Cymunedol Cyf.
Trwy ymdrechion codi arian mawr a gyda chymorth gan lywodraeth Cymru, prynwyd yr adeilad ym mis Mawrth 2011. Dros y misoedd a’r blynyddoedd dilynol cafodd ei atgyweirio a’i wella gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr. Ailagorwyd y bar a’r ystafell ddigwyddiadau ddiwedd mis Mai 2011. Erbyn Gorffennaf 2012 roedd y gegin a’r bwyty wedi ailagor. Ym mis Tachwedd 2013 roedd y tair ystafell gyntaf ar gael ar gyfer llety. Mae gennym ni naw nawr!









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.