Disgrifiad
Cwmni cydweithredol, neu ‘fenter’ yw Antur Aelhaearn (neu Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974)) a sefydlwyd yn 1973 gan y meddyg Carl Clowes ac Emrys Williams. Ffurfiwyd y cwmni yn dilyn brwydr hir gan y pentrefwyr i gadw’r ysgol gynradd leol yn agored. Ymhlith y problemau a wynebai’r pentref roedd derbyniad teledu, gormod o dai haf yn yr ardal a lleihad yn nifer poblogaeth pentref Llanaelhaearn. Ffurfiwyd Cymdeithas y Pentrefwyr cyn hynny, er mwyn wynebu’r problemau hyn, ond ni chawsant lawer o lwyddiant.
Erbyn 2024 roedd gan y fenter ‘Senedd’, deuddeg o aelodau, sef y corff sy’n rheoli’r Antur. Y Senedd sy’n gyfrifol am redeg yr Antur o o ddydd i ddydd, fel y mae bwrdd o gyfarwyddwyr yn rhedeg cwmni. Dewisir y Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinl Blynyddol.
Ymhlith yr ymgyrchoedd eraill mae’r fenter wedi cymryd y mae: tai fforddiadwy a biliau ynni isel er mwyn denu nifer o deuloedd ifanc i’r pentref. Ceisiwyd hefyd sicrhau cysylltiad rhyngrwyd band-eang cyflym. Codwyd adeilad a wasanaethai fel ffatri yn gynnar yn eu hanes, a chanolfan i gynnal gweithgareddauee gweithdy gwniadwaith a gwau a gyflogai nifer o bobl. Roeddent yn cynhyrchu dillad gwlân o safon uchel, yn cynnwys patrymau Celtaidd.
Yn 2023 roedd yr Antur yn ceisio prynu Becws Glanrhyd, sef becws ym mhentref Llanaelhaearn, a oedd yn cyflogi chwech o bobl. Gobaith y fenter oedd ddefnyddio ynni solar i leihau costau.
Mae’r fenter yn berchen ar eiddo gan gynnwys y Babell, y Ganolfan ac adeilad efo swyddfa, lle i wneud gwaith pren a maes parcio wedi’u rhannu a’r feddygfa. Denodd y fenter nawdd ariannol, a gwelir ffrwyth eu llafur yno heddiw (2024): maes chwarae, y Babell, y Ganolfan a Gardd gymunedol. Dywed y fenter eu bod yn ceisio darparu ar gyfer anghenion bobl ifanc, sy’n rhan ganolog o’u gwaith.
Derbyniwyd grant o £174,000 gan Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru i sefydlu Coedlan Cymunedol Llanaelhaearn ar ddwy acer o dir amaethyddol ger adeilad grŵp cymunedol Antur Aelhaearn. Dros gyfnod o ddwy flynedd, plannwyd 1,000 o goed brodorol a 200 o goed perllan e.e. y dderwen, criafolen, helyg, coed cnau, afal a ffrwythau eraill Cymreig. Enwyd y goedlan ar ôl sefydlydd y fenter: Coedlan Carl.
Datganiad i’r wasg ar 4-12-23
Antur Aelhaearn yn llwyddo i brynu Becws Glanrhyd
Mae Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974) yn falch iawn o ddatgan fod ein cais i’r gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) ar gyfer prynu Becws Glanrhyd Llanaelhaearn wedi bod yn llwyddiannus. Mae’r prosiect hwn i brynu becws Glanrhyd wedi cael £350,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae 6 sir Gogledd Cymru sef Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Dinbych, Wrecsam a Fflint yn gyfrifol am rannu arian cronfa ffyniant gyffredinol. Mae’r becws wedi bodoli yn Llanaelhaearn ers 80 mlynedd ac mae’n rhan annatod o wead y pentref. Gwyddom yn iawn nad oes dim gwell nac arogl bara ffres newydd ei bobi yn llenwi’r ffroenau. Heddiw yw diwrnod masnachol cyntaf Becws Glanrhyd o dan berchnogaeth Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974).
Sefydlwyd yr Antur bron i hanner can mlynedd yn ôl ac ers hynny rydym wedi bod yn cefnogi sawl busnes, ffurfio mentrau newydd, darparu llu o weithgareddau cymunedol i bob oed a darparu gofod ar gyfer hyfforddiant a lles cymunedol.
Meddai Llŷr ap Rhisiart, y Cadeirydd:
“Ystyriwn y cyfle i ddatblygu’r becws a chynnig cyflogaeth o hyd i bobol lleol fel anrhydedd o’r mwyaf, ac rydym yn fwy na pharod i wynebu’r her mewn cyfnod economaidd anodd.
Hoffai’r Antur ddiolch yn arbennig i’r perchnogion presennol am eu hamynedd yn ystod y misoedd diwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth barod yn fawr iawn. Yn yr un modd rydym yn galw ar y gymuned a busnesau’r ardal i’n cefnogi ni ar bennod newydd a chyffrous yn hanes y becws”.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.