Disgrifiad
Caffi cartrefol sydd hefyd yn fwyty trwyddedig yn gweini amrywiaeth o fwyd cartref, byrbrydau a diodydd.
Ardal dynodedig ar gyfer cŵn tu fewn a thu allan.
Enwyd y caffi a’r bwyty yma, sydd yn eistedd wrth ymyl Llwybr Arfordir Cymru, ar ôl arwres drasig stori werin leol. Roedd Meinir a Rhys wedi tyfu i fyny yn ardal Nant Gwrtheyrn a syrthio mewn cariad. Ar fore eu priodas, a oedd i’w gynnal yn Nghlynnog Fawr, dilynodd Meinir yr arfer lleol a chuddio, yna aeth ffrindiau Rhys i ddod o hyd iddi a mynd â hi i’r eglwys. Methon nhw i ddarganfod Meinir. Canslwyd y briodas a syrthiodd Rhys i iselder. Misoedd yn ddiweddarach, roedd yn cysgodi mewn storm o dan hen goeden dderwen wag pan drawodd mellten y goeden a hollti’r boncyff. Y tu mewn roedd corff pydredig Meinir, yn dal yn ei ffrog briodas.
Ger Caffi Meinir y mae cerflun sy’n ymwneud â hanes Rhys a Meinir. Cafodd ei greu gan Sebastien Boyesen yn 2010.









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.