Disgrifiad
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl o hyd yn Yr Eagles. Llwyddodd y gymuned i brynu’r dafarn yn 2023 . Rhoddodd hyn fywyd newydd i’r sefydliad tra’n cofleidio cymeriad hynafol y dafarn Gymreig. Mae’r Eagles yn dafarn unigryw o awyrgylch Gymreig gyda’r iaith a’r diwylliant yn ganolog i’r holl weithgaredd a’r gwmniaeth.
Tafarn gymunedol.
MAE TAFARN YR EAGLES, LLANUWCHLLYN YN UN O DAFARNDAI MWYAF ADNABYDDUS CYMRU.
Ond mae’n llawer iawn mwy na dim ond tŷ tafarn.
Dyma guriad calon y gymuned. Dyna pam, yn dilyn cyhoeddiad y perchnogion presennol yn gynharach eleni eu bod yn ymddeol, y daeth y gymuned ynghyd i sicrhau bod y drysau’n parhau’n llydan agored.
“Pan gerddais i mewn trodd pawb i siarad Cymraeg”.
Dyma yw profiad honedig rhai ymwelwyr yma’n y Fro Gymraeg.
Mae’r Eagles yn Dafarn, Bwyty a Siop sy’n gwasanaethu Cymuned glos lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol y trigolion. Fe ystyrir yr ardal yma a’r dalgylch ehengach yn un o gadarnleoedd y Gymraeg lle mae’r traddodiadau Cymreig yn parhau yn amlwg iawn.
Felly Cymraeg fu iaith yr ardal a’r dafarn erioed fel mai’r Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf cyfandir Ewrop.
Felly galwch draw I brofi’r iaith a’r diwylliant Cymreig ar ei buraf. Mae trwch ein staff yn ddwyieiithog ac yn awyddus i fod o gymorth i chi i fwynhau ac uchafu eich profiad o’r Eagles
Y Bwydlen – Bwydlen









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.