Disgrifiad
Mae Antur ‘Stiniog yn fenter gymdeithasol ddielw. Fe’i sefydlwyd ym mis Mehefin 2007, ar ôl derbyn addewidion o gefnogaeth gan fwy na 2000 o drigolion lleol, pob un yn rhannu’r un weledigaeth:
“Datblygu potensial y Sector Awyr Agored yn ardal Ffestiniog mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol”
Nod Antur Stiniog yw gwireddu’r weledigaeth hon drwy gyfrwng nifer o brosiectau cyffrous sy’n amrywio o ddarparu mwynhad, hyfforddiant yn y sector a datblygu cyfres o lwybrau beicio mynydd yn yr ardal.

Aelod o cymunedoli, ac yn fenter gymunedol sydd yn gweithio er budd y gymuned. Mae Cymunedoli yn rhwydwaith o fentrau cymunedol yng Ngwynedd yn cydweithio er budd ein cymunedau.
Y Siop – Canolfan Antur ‘Stiniog yng nghanol Bro Ffestiniog. Mae hon yn fenter fasnachol gyda chalon gymdeithasol. Mae ‘Y Siop’ yn dŷ coffi, siop ddillad, gofod gwneuthurwyr a chanolfan wybodaeth ar gyfer yr ardal unigryw hon. Rydym yn gwerthu cynnyrch lleol o safon, dillad gan frandiau dibynadwy yn ogystal ag amrywiaeth o’n gêr brand ein hunain sydd wedi’u dylunio a’u hargraffu’n lleol sydd ar gael i’w prynu yn y siop ac ar-lein. Os hoffech gysylltu â ni ffoniwch 01766 832 214 neu ebostiwch siop@anturstiniog.com









Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.