Mae’r babell yn cynnig dihangfa glyd, gwlâu cyfforddus, trydan, a defnydd preifat o gyfleusterau cegin a ymolchi. Mae’r gwyliau glampio yma yn rhan o’r cynllun Croeso Cymraeg, ac yn cynnig digon o gyfle i siarad a dysgu am hanes y Gymraeg.
Mae’r lleoliad Glampio yma wedi ei lleoli mewn llecyn hyfryd yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Nepell (1km) o’r llwybr arfordir Cymru mae o lai na pum munud o gerdded i ffwrdd o un o draethau tywodlyd gorau Llŷn sef Penllech. Maer glampio wedi lleoli ar dir Canolfan Treftadaeth a Natur Llŷn. Mae o ar Lwybr y pererinion, ac yn 50m o fan pigo i fynnu Bws arfordir Llŷn.
Adolygiadau
Nid oes adolygiadau eto.