Arwyddwch i fewn

Ein nod yw i ailddatblygu ac ail-agor Y Tŵr fel gwesty, tafarn, bwyty a chanolbwynt ar gyfer pob math o wasanaethau a gweithgareddau cymunedol.

Adeiladwyd Y Tŵr yn 1875 ac mae’n sefyll mewn lleoliad canolog ac amlwg ar y stryd fawr. Bu’r adeilad unwaith yn ganolbwynt prysur – gwesty, bwyty, bar ac ystafell i gynnal digwyddiadau cymdeithasol. Crewyd atgofion a datblygwyd syniadau cyffrous yn yr adeilad hwn. Credwn y gallai Y Tŵr unwaith eto ddod yn ganolbwynt cymunedol bywiog a fyddai’n rhoi bywyd newydd i’r dref ac yn helpu i adfer y stryd fawr.

Yn dilyn codi’r blaendal sefydlwyd is grwpiau.

Treuliodd y Grŵp Adeiladu amser yn Y Tŵr yn creu cynlluniau adeiladu a cynlluniau llawr, a’r weledigaeth o botensial yr adeilad.

Bu’r Grŵp Busnes yn ymchwilio i gynlluniau grantiau a chyfranddaliadau ac yna cychwyn ar y broses o ymgeisio am grantiau.

Bu’r Grŵp Hyrwyddo yn creu tudalennau cyfryngau cymdeithasol, a gwefan newydd. Cynhaliwyd cystadlaethau, holiadur, a trafodwyd cynlluniau codi arian ar gyfer y fenter.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Menter Y Tŵr yn rhan o brosiect ‘Gwella Pwllheli’ gan Gyngor Gwynedd. Rydym yn hynod gyffrous fod cydweithio wedi cychwyn efo’r Ecoamgueddfa gyda’r gobaith y gall Y Tŵr gael ei gynnwys fel Hwb ar fap yr Ecoamgueddfa.

Nodweddion

Ychwanegu Adolygiad

Gadael Ymateb

Hawlio'r hysbyseb

Cymerwch reolaeth ar eich hysbysiad!

Addaswch eich manylion yn yr hysbyseb, atebwch adolygiadau, uwch lwythwch luniau a llawer mwy i ddangos i gwsmeriaid beth sy'n gwneud eich busnes yn arbennig.
Your account will be created automatically based on data you provide below. If you already have an account, please login.

Dewis Cynllun

Llenwch y ffurflen

Llwybrau Cyfagos

Mae'r holl fanylion yn gywir ar adeg cyhoeddi, gwiriwch gyda'r fenter cyn archebu. Soniwch am Gwynedd.Cymru wrth archebu neu ymholi!
Os ydych yn berchen ar y Fenter/Busnes yma, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ddolen - "Heb ei wirio. Hawliwch yr hysbysiad yma!"
ar dop y tudalen yma er mwyn diweddaru'r dudalen hon am ddim.