Arwyddwch i fewn

Prosiect amgylcheddol cymunedol yw’r Dref Werdd a gafodd ei sefydlu’n wreiddiol o dan raglen Cymunedau’n Gyntaf nôl yn 2006. Ynghyd ag Antur Stiniog, cafodd Y Dref Werdd ei ddatblygu fel grŵp a fyddai’n gweithio i amddiffyn a chyfoethogi’r amgylchedd lleol ym Mro Ffestiniog gydag ystod eang o brosiectau.

Cymunedau’n Gyntaf oedd yn rhoi’r gefnogaeth ariannol ar gyfer prosiectau fel Y Dref Werdd er mwyn troi’r syniadau yn realiti. Ar ôl blynyddoedd o ddatblygu’r prosiect a oedd yn cynnwys diogelu afon leol, galluogi Blaenau Ffestiniog i ennill statws tref Masnach Deg, sefydlu partneriaethau i ofalu am barciau a mannau gwyrdd lleol, datblygu rhandiroedd a chlybiau ar ôl ysgol, profodd y prosiect i fod yn llwyddiant mawr.

Fel y daeth y rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i ben yn 2011, ‘roedd yn rhaid meddwl am sut fyddai’r Dref Werdd yn parhau heb y gefnogaeth, ac felly bu i’r prosiect gael ei sefydlu fel Cwmni Cyfyngedig trwy Warant a bu i Fwrdd o Gyfarwyddwyr gael eu penodi i gefnogi a sicrhau fod Y Dref Werdd yn goroesi. Penderfynwyd gwneud cais gan Gronfa Fawr y Loteri.

Gan adeiladu ar y gwersi a gafwyd yn ystod yr amser dan adain Cymunedau’n Gyntaf, bu i fynegiant o ddiddordeb gael ei wneud i’r gronfa Pobl a Llefydd gan y Loteri Fawr ar gyfer prosiect “Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar” ac yn dilyn hyn, derbyniwyd gwahoddiad i wneud cais llawn am nawdd. Yn gynnar yn 2015, wedi gwaith caled y bwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol gyda’r ymgynghori angenrheidiol ar gyfer gallu gwneud y cais, derbynwyd grant i ariannu tair blynedd o’r prosiect ac i ddatblygu prosiectau penodol ym Mro Ffestiniog. Caiff y prosiect ei rannu i bedair rhan; ynni, gwastraff bwyd, yr amgylchedd a sgiliau.

Yn seiliedig ar lwyddiant prosiect 2015-2018, dyfarnwyd cais grant Loteri bellach yn 2019 ac mae wedi ariannu’r prosiect 4 blynedd ‘Gwarchod Cynefin Drwy Gynnal Cymuned’. Ariannodd y grant hwn 4 rôl yn Y Dref Werdd – dau Weithiwr Llesiant, un Gweithiwr Prosiect Amgylcheddol, a Rheolwr Prosiect. Ers hynny, diolch i grantiau bach amrywiol gan WCVA, Cyngor Gwynedd, Mantell Gwynedd a mwy, mae’r tîm bach yma o 4 wedi tyfu i 11!

Nodweddion

Adolygiadau ar Google

5.0
Adolygiadau 5
  • Shirli Hill
    Shirli Hill
    3 years ago

    I just popped in to get my tree in order to help with the 'National Forest'. The staff were kind and very helpful and I came away with my sapling very pleased indeed. Unfortunately, I don't think I will live long enough to see it mature into a tree but it's enough to know I have contributed to the future . Thank you for my dogwood .

  • **
    **
    9 years ago

    Great advice about reducing household bills,saving energy and warm home discounts for energy suppliers. Dref werdd means Green town. Another part of their work is using volunteers to cut down,remove legally invasive species such as knotweed or Himalayan balsam or Rhodedendrons. Improving neglected spaces turning into.gardens or play areas or for use as allotments.Picking up litter occasionally. Lovely people,well trained with a passion for making Blaenau Ffestiniog a better place.

  • christopher miller
    christopher miller
    2 years ago

    Happy, friendly place,always ready for a chat

  • Mat Jones
    Mat Jones
    2 years ago

    Great. Very helpful and useful for the community. 👍

  • keith davies
    keith davies
    8 years ago

    Staff, always helpful and knowledgeable, would highly recommend.

Ychwanegu Adolygiad

Gadael Ymateb

Hawlio'r hysbyseb

Cymerwch reolaeth ar eich hysbysiad!

Addaswch eich manylion yn yr hysbyseb, atebwch adolygiadau, uwch lwythwch luniau a llawer mwy i ddangos i gwsmeriaid beth sy'n gwneud eich busnes yn arbennig.
Your account will be created automatically based on data you provide below. If you already have an account, please login.

Dewis Cynllun

Llenwch y ffurflen

Wedi Cau

Oriau Agor

  • Dydd Llun 10:00 AM - 04:00 PM
  • Dydd MawrthWedi Cau
  • Dydd Mercher 10:00 AM - 04:00 PM
  • Dydd IauWedi Cau
  • Dydd Gwener 10:00 AM - 04:00 PM
  • Dydd SadwrnWedi Cau
  • Dydd SulWedi Cau

Llwybrau Cyfagos

Mae'r holl fanylion yn gywir ar adeg cyhoeddi, gwiriwch gyda'r fenter cyn archebu. Soniwch am Gwynedd.Cymru wrth archebu neu ymholi!
Os ydych yn berchen ar y Fenter/Busnes yma, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ddolen - "Heb ei wirio. Hawliwch yr hysbysiad yma!"
ar dop y tudalen yma er mwyn diweddaru'r dudalen hon am ddim.