Cwmni nid er elw yw Menter Iaith Gwynedd wedi ei sefydlu yn haf 2023 i hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd. Mae’r fenter wedi egino o ‘Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd’, sef y fenter oedd yn bodoli cyn 2023 ac a oedd yn rhan o Gyngor Gwynedd.
Ein nod ydy cynyddu defnydd y Gymraeg ledled Gwynedd. Anelwn i wneud hyn drwy sicrhau fod gan bawb gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau.
Rydym yn credu bod y Gymraeg yn gallu perthyn i bawb a bod angen magu’r ymdeimlad yna o berthyn i’r iaith, ac i’r ardal, er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg ar draws ein cymunedau.
Rydym yn datblygu cynlluniau ar y cyd â chymunedau a phartneriaid, fydd yn:
- lledaenu negeseuon cadarnhaol am y Gymraeg
- rhoi cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn cyd-destunau newydd ac amrywiol
- rhoi cyfleoedd ymarfer a magu hyder i’r rhai sy’n llai parod i siarad neu sydd yn siaradwyr newydd
- cynnig cefnogaeth i fudiadau, clybiau, grwpiau gwirfoddol a chynrychiolwyr cymunedol i sicrhau fod y Gymraeg yn ganolog o fewn ein cymunedau
- codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r rôl sydd gan bawb i chwarae wrth gynnal yr iaith, ac i ledaenu’r balchder yn y Gymraeg fel iaith fyw.
Os oes gennych gwestiwn am ein gwaith neu os ydych yn awyddus i wybod mwy yna cysylltwch.




Gadael Ymateb
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.