Mae Tŷ Newydd yn lleoliad perffaith ar gyfer partïon teuluol, gwyliau grŵp, priodasau neu gynadleddau bychan. Dyma gartref olaf y Prif Weinidog David Lloyd George, ac mae wedi ei leoli mewn man hyfryd ar gyrion pentref Llanystumdwy, yn edrych allan dros Fae Ceredigion. Mae’n dŷ llawn cymeriad, ac wedi ei ddiweddaru a’i ailwampio yn ddiweddar gyda chyfleusterau modern. Mae gan yr ardd fawr amryw o ardaloedd eistedd, a lawnt fawr sydd yn berffaith i blant chwarae. Mae Wi-Fi am ddim i’w gael ar y safle.
Mae Tŷ Newydd yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded, pe hoffech fynd am dro ar lan y môr, cerdded ar hyd yr Afon Dwyfor neu Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, neu hyd yn oed taclo’r Wyddfa. Neu efallai yr hoffech ymlacio yn y llyfrgell yn mwynhau’r olygfa hyfryd trwy ein ffenestr fwa.
Cyrsiau wedi eu teilwra yn arbennig
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu cwrs corfforaethol neu ddiwrnod i ffwrdd ar gyfer eich busnes, gwmni neu grŵp, cysylltwch â Thŷ Newydd a byddwn yn hapus i drafod eich anghenion penodol gyda chi. Cynigiwn sesiynau undydd a chyrsiau preswyl pwrpasol gydag awduron ysgrifennu creadigol proffesiynol am brisiau rhesymol.
Gallwch hurio Tŷ Newydd fel lleoliad ar gyfer cyfarfodydd, sesiynau gwaith, recordio sain, sesiynau ffotograffiaeth a ffilmio. Cewch y dewis o ba mor hir yr hoffech dreulio yma a pha drefniadau arlwyo yr hoffech.
Os oes gennych chi ddiddordeb llogi Tŷ Newydd ar gyfer eich digwyddiad, achlysur neu wyliau teulu nesaf, cysylltwch â ni drafod eich anghenion ac ein hargaeledd.




>

Gabriel Walker
5 months agoThe retreat with Clare Mackintosh was spectacular. The staff couldn't have been nicer or more accommodating and the teacher was incredibly kind, supportive and knowledgeable. Can't wait to come back for the next one!
Michelle Foulia
2 years agoA precious gem of a place in the most beautiful location right by the sea. The perfect place for writers whether attending a course or staying to work on their book.
Gareth Culshaw
7 years agoIf you want everything a writer needs to be shown what to do, it's here. An amazing dream is now a bridge for writers to cross and become who they are underneath. GO!!!!
Kelvin Golden
5 months agoExcellent location
Sarah Jones
4 years agoAbsolutely stunning house in beautiful grounds.