Mae’r Ganolfan hon yn hunangynhaliol ac yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr i’w chadw a’i chynnal a’i datblygu.
Ein cenhadaeth ni yw goleuo ein pobl yn eu GWIR HANES, a thrwy hynny rhoi hyder iddynt o’r newydd i fod yn falch o’u treftadaeth ac yn awyddus i ymdrechu i gadw ‘i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu’.
- Sefydlwyd y Ganolfan i wrthsefyll dylanwadau estron sy’n tanseilio hunaniaeth ein cenedl yn ieithyddol, yn ddiwylliannol, yn seicolegol ac yn wleidyddol. Canlyniad y dadwreiddio a’r estroneiddio hyn yw difa’n Cymreictod trwy ein cael i anghofio pwy ydym ac o ble y daethom.
- Costrelu hanes Cwmwd Uwchgwyrfai, yn bennaf trwy gyfrwng ein Wici Cymraeg, Cof y Cwmwd, sydd ar hyn o bryd (2022) yn cynnwys dros 1,500 o ysgrifau gwybodaeth/dehongli.
- Ymgyrchu’n drwyadl a chyson i wrthwynebu popeth sydd yn peryglu arwahanrwydd ein hanes a’n hunaniaeth.
Crynhoir y cyfan yn arwyddair Canolfan Hanes Uwchgwyrfai :
‘Anghofio yw Bradychu’.




>

Paula-Louise Campous
8 years agoJust visiting friends