Arwyddwch i fewn

Gweledigaeth R. Gwynn Davies, a chefnogaeth gref pobl ardal Waunfawr fu’n gyfrifol am sefydlu Antur Waunfawr yn 1984. Erbyn hyn, mae’n Fenter Gymdeithasol flaenllaw sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned.

Dros 35 mlynedd yn ôl, roedd cwmni elusennol fel Antur Waunfawr, a gynigai waith go-iawn gyda phwrpas iddo i bobl gydag anableddau dysgu, yn arloesol. Cyn hynny, derbyn gofal a gwaith mewn canolfannau arbennig oedd yn wynebu’r bobl yma. Dangosodd Antur Waunfawr mai trwy roi cyfleoedd iddynt weithio allan yn y gymuned, a thrwy hynny wasanaethu’r gymdeithas, y byddent yn cael eu derbyn fel dinasyddion cydradd.

Dros y blynyddoedd, datblygodd y cwmni, ac mae’r fenter gymdeithasol erbyn heddiw yn cyflogi dros 100 aelod o staff, ac yn cefnogi dros 65 o oedolion gydag anableddau dysgu.

Mae Antur Waunfawr wedi ymrwymo i ddatblygu mewn ffordd cynaladwy – sy’n golygu bod gwarchod yr amgylchedd naturiol a datblygu busnesau gwyrdd yn greiddiol i werthoedd y Cwmni.  Gweledigaeth Antur fodd bynnag, yw plethu hyn gyda’r cysyniad o integreiddio pobl ag anawsterau dysgu i bob agwedd o’n gwaith. Mae’r prosiectau ailgylchu yn rhan allweddol o’r integreiddio hwn, ac mae  Caergylchu, y Warws Werdd a Beics Antur yn cynnig ystod eang o brofiadau gwaith a hyfforddiant.

Ar safle Bryn Pistyll yn Waunfawr, mae yna saith acer o gynefinoedd amrywiol yn y parc natur sy’n denu pob math o fywyd gwyllt, llwybrau dirgel, coedlannau, gwaith celf anghyffredin a golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri. Mae’r gerddi yn cynnwys casgliad hynod ddiddorol a lliwgar o goed a blodau a phlanhigion gwyllt. Mae croeso mawr i ymwelwyr ymweld, crwydro a sgwrsio, ac mae yna wastad croeso cynnes i’w gael.

Nodweddion

Adolygiadau ar Google

4.5
Adolygiadau 35
  • Steve Hughes
    Steve Hughes
    5 years ago

    When your allowed to visit,a great place for picking up some locally crafted gift ideas,and some locally grown fruit and veg. Also pop into the cafe for a spot of lunch. Little hidden away gem

  • Ellen Owen
    Ellen Owen
    9 years ago

    A hidden gem. A wonderful place. It is a leading social enterprise providing employment and training opportunities for people with learning disabilities in their own community. It's a beautiful place with happy, helpful people.

  • Karen Neil
    Karen Neil
    9 months ago

    Friendly cafe. Good value and a lovely pot of tea.

  • Michael Jones
    Michael Jones
    8 years ago

    At the back of nowhere and not recommended for larger vehicles. No idea what they do there as I was there to do some fixing, still not sure so some better signage may be advisable!

  • Juliet Pritchard
    Juliet Pritchard
    8 years ago

    some very inexpensive lovely cards and gifts.....lovely shop...great cafe...great staff

Ychwanegu Adolygiad

Gadael Ymateb

Hawlio'r hysbyseb

Cymerwch reolaeth ar eich hysbysiad!

Addaswch eich manylion yn yr hysbyseb, atebwch adolygiadau, uwch lwythwch luniau a llawer mwy i ddangos i gwsmeriaid beth sy'n gwneud eich busnes yn arbennig.
Your account will be created automatically based on data you provide below. If you already have an account, please login.

Dewis Cynllun

Llenwch y ffurflen

Llwybrau Cyfagos

Mae'r holl fanylion yn gywir ar adeg cyhoeddi, gwiriwch gyda'r fenter cyn archebu. Soniwch am Gwynedd.Cymru wrth archebu neu ymholi!
Os ydych yn berchen ar y Fenter/Busnes yma, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ddolen - "Heb ei wirio. Hawliwch yr hysbysiad yma!"
ar dop y tudalen yma er mwyn diweddaru'r dudalen hon am ddim.