Arwyddwch i fewn

Ein Cynnig

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Argraff ar gyfer Cymdeithas Penygraig sef y perchnogion. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gymdeithas annibynnol ac nid ydym yn codi ffioedd asiantaeth fawr. Mae pob archeb ac ymholiad yn mynd yn syth atoch gan gynnig mwy o hyblygrwydd a gwerth am arian.

Mae’r dewis gyda chi bob amser, ac rydym wedi ei gwneud mor syml â phosibl i ddechrau ar y daith hon gyda ni. Efallai mai’r dewis cyntaf fydd cymryd y cynnig o gymryd hysbyseb neu ‘listing’ gwbl weithredol am ddim! Bydd hyn yn caniatáu i chi ac eich busnes weld sut mae ein system yn gweithio am gyfnod o 30 diwrnod. Mae hyn werth dweud dwywaith – gwbl weithredol ac am ddim. Gellir cymryd mantais o’r cynnig hwn yma –

Wedi’i gynnwys yn y gost o hysbysebu gyda ni:

Rydym yn gosod yr hysbyseb i chi.
Hysbyseb lliw mawr gyda hyd at 5 ffotograff a thestun diderfyn.
Hypergyswllt gwe i’ch gwefan eich hun.
Dangosir eich manylion cyswllt gan fod pob archeb ac ymholiad yn mynd yn syth atoch.
Gallwch ychwanegu eich cynigion arbennig eich hun pryd bynnag y dymunwch – felly os oes gennych le sydd ar gael yn hwyr i’w lenwi neu os ydych yn cynnig arbennig am seibiant byr yna gallwch hyrwyddo hyn yma.
Adran Argaeledd – Mae hon yn cael ei diweddaru gennych chi – gan ddarparu hyblygrwydd a rhwyddineb gan nad oes angen i chi gysylltu â ni i wneud hyn.
Diwygiadau AM DDIM pryd bynnag y bo angen.
Hyrwyddwch eich llety i Gymry Cymraeg.

Cofrestrwch
Mae cofrestru i hysbysebu gyda ni yn hawdd, gallwch lenwi ffurflen ar y safle yma, gallwch anfon e-bost atom yn holi@gwynedd.cymru neu gallwch ein ffonio ar 07464 052-992. Gallwn osod yr hysbyseb gan gymryd manylion oddi ar eich gwefan neu gallwch e-bostio gwybodaeth atom. Byddwch yn cael e-bost unwaith y bydd yr hysbyseb yn fyw i roi gwybod i chi am fanylion yr hysbyseb a manylion Mewngofnodi i’ch panel rheoli fel aelod newydd.